Fel drigolyn balch Powys ac arweinydd iechyd meddwl Gweithredu dros Blant yng Nghymru, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Plant (6 – 12 Chwefror), yn amser pwysig i asesu’r gwaith gwych sy’n digwydd ym Mhowys ac ar draws Cymru yn y maes iechyd meddwl plant. Er gwaethaf yr holl heriau sydd wedi’u dogfennu’n dda gyda CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed), mae lles meddyliol pobl ifanc yng Nghymru yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i lunwyr polisi ac elusennau fel ei’n gilydd.
Mae rhaglen ymchwil ddiweddar a ariannwyd gan lywodraeth y DU wedi canfod bod chwarter merched a bron i un o bob 10 bachgen yn dangos arwyddion o iselder yn 14 oed, mae’r amodau hyn sy’n cyfyngu ar fywyd ac yn wanychol yn dod yn fwy a fwy cynhenid yn nhirwedd bywydau ein plant.
Mae rhaglen llythrennedd iechyd meddwl y Guide ym Mhowys a drost Cymru wedi bod yn rhan allweddol o’n dulliau iechyd meddwl. Roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi’r dull arloesol hwn yn 2018. Wedi ei ddatblygu yng Nghanada, mae’r Guide wedi gael ei anelu at fyfyrwyr blwyddyn 9 ac mae’n darparu set gyflawn o adnoddau ar-lein sydd wedi ei phrofi i gynyddu dealltwriaeth o iechyd meddwl ac anhwylderau meddwl, i leihau stigma salwch meddwl ac yn cynyddu’r gallu i geisio cymorth, ymhlith myfyrwyr ac athrawon.
Mae’r cynllun wedi ei gydnabod a’i gefnogi ar lefel Llywodraeth Cymru ac roeddwn i wrth fy modd ein bod ni yn arwain y ffordd o ran gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl myfyrwyr blwyddyn 9 pan fydd hyd oes diagnosis o anhwylderau iechyd meddwl yn dechrau cynyddu’n aruthrol. Yr allwedd yma yw addysgu llythrennedd iechyd meddwl i myfyrwyr a staff.
Mae gwybod beth yw’r ffordd orau o gael a chynnal iechyd meddwl da, a beth i’w wneud os ydyn nhw, fel llawer o bobl, neu eu ffrindiau a’u teulu yn profi anawsterau, yn gadarnhaol nid yn unig am eu cyflawniad addysgol presennol ond hefyd am eu bywydau yn y dyfodol y tu hwnt i gatiau’r ysgol. Mae’r galw wedi bod yn uchel iawn am y gwasanaeth hwn, ac roeddem yn falch iawn o gymerud y gwasanaeth hwn, am ddim, ar-lein i weithwyr proffesiynol a chymunedau yn ystod, ac ers pandemig Covid a waethygodd yr heriau emosiynol ac iechyd meddwl i’n pobl ifanc.
Hefyd ym Mhowys, mae ein gwasanaeth Anghenion Ychwanegol Cymunedol Powys ar gyfer plant gydag anableddau wedi bod yn gweithio gyda’r URC lleol i ddarparu sesiynau chwaraeon cynhwysol i bobl ifanc yn “Welshpool”, gyda grŵp ychwanegol wedi cychwyn yn y “Newtown” yn ddiweddar. Mae’n rhan o bartneriaeth gyffrous sy’n datblygu rhwng URC a Gweithredu dros Blant a fydd yn gweld llawer mwy o’n pobl ifanc yn elwa drost Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Mae ymateb y bobl ifanc sy’n cymryd rhan wedi bod yn wych i’w weld ac mae bellach yn rhan werthfawr o’r wythnos wrth iddynt elwa’n fawr o ymarfer rhyngweithiol gyda’u ffrindiau.
Felly, mae Gweithredu dros Blant yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl arloesol yng Nghymru. Rydym hefyd yn darparu Rhaglen y “Blues” ar draws Cymru mewn ysgolion uwchradd gyda pobl ifanc yn eu harddegau sy’n dangos arwyddion cynnar o broblemau iechyd meddwl. Mae’r rhaglen wedi cael ei dderbyn yn dda iawn, ac mae’r galw gan ysgolion unwaith eto wedi bod yn uchel.
Welsh Rugby Union (WRU) prosiect – Trallwng | project – Welshpool
Yn ogystal â llwyddiant y Blues, mae rhaglenni ‘On Target a Bouncing Back’ (Bownsio’n Ôl), sy’n cynnwys ymarfer corff yn y sesiynau dosbarth, wedi bod yr un mor boblogaidd ac effeithiol, maent yn dangos llwybr trwy gyfnod a gall fod yn heriol iawn. Mae cael ein pobl ifanc i deimlo’n gyfforddus i siarad am eu hemosiynau ac rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r offer iddynt i ddeall a rheoli eu hemosiynau’n well yn hanfodol.
Mae’n bwysig dweud nad ydym byth yn anghofio rhieni a’r teulu ehangach yn Gweithredu dros Blant. Yng Nghymru, mae ein gwasanaeth Parent Talk Cymru yn drysorfa o adnoddau i rieni, ac iechyd meddwl a lles yw’r cynnwys mwyaf poblogaidd ar y wefan. Yn ogystal â’r deunydd cynhwysfawr ar y we, mae sgwrsio ar-lein un-i-un ar gael gyda hyfforddwr magu plant profiadol. Maent ar gael yn y Gymraeg ag yn Saesneg, mae’r gwasanaeth gwych hwn i gyd am ddim, ac nid oes unrhyw bwnc yn rhy fawr, rhy fach, nac yn gwilydd i’w drafod.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Plant yn llwyfan perffaith i danlinellu ein hymrwymiad i iechyd meddwl a lles ein plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Rydym benderfynol o ymgyrchu dros newid a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau canlyniadau gwell gan ein bod yn delio gyda materion cymhleth sy’n effeithio ar ein teuluoedd o ddydd i ddydd. Mae hwn yn waith eang a chynhwysfawr ac nid ydym byth yn sefyll yn llonydd.
Children’s Mental Health Awareness Week is the perfect platform to underline our commitment to the mental health and wellbeing of our children, young people and their families. We are driven by campaigning for change and working with Welsh Government to secure better outcomes as we are in the front line dealing with a range of complex issues affecting our families day in and day out. This is work is wide-ranging and comprehensive and we never stand still.